Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 27 Chwefror 2018
Amser:
09.17 -
10.51
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4524
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David J Rowlands AC (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AC Janet Finch-Saunders AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC |
Tystion: |
Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Ainsley Bladon, Llywodraeth Cymru Liz Davies, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol) Stephen Boyce |
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae wedi ymgyrchu ar y mater.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chytunodd i:
· ystyried sylwadau, a dderbyniwyd gan y deisebydd ar ôl i'r papurau gael eu cyhoeddi, mewn cyfarfod yn y dyfodol; ac
· ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet i fynegi eu barn y dylid cyhoeddi canlyniadau arolwg cyflwr yr ysgol.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd ac, o gofio cefnogaeth y deisebydd ar gyfer dull Ysgrifennydd y Cabinet, cytunodd i gau'r ddeiseb. Wrth wneud hynny, roeddent yn dymuno diolch i'r deisebydd am ddod â'r ddeiseb ymlaen a'i chyfraniad at eu hystyriaeth o'r mater.
Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a chytunodd i aros am sylwadau pellach gan y deisebydd cyn ystyried camau pellach ar y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn:
o am ragor o wybodaeth am y graddfeydd amser disgwyliedig o ran y dull datblygu ar gyfer y fethodoleg asesu stoc ac a fydd hynny'n cael ei roi allan i dendr ar wahân;
o gofyn iddi ymateb i bryderon gan y gymuned leol am y diffyg arwyddion amlwg a chlir sy'n ymwneud â chau'r pysgodfeydd, ac a ellir mynd i'r afael â hyn.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb o ystyried y camau diweddar ar y mater hwn a diffyg ymateb diweddar gan y deisebydd
Bu'r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU i ofyn a ydynt wedi cynnal adolygiad i ddarparu gwregysau diogelwch ar bob bws sy'n cludo plant a'r angen i bob gyrrwr bws gael ei wirio gan DBS.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:
o a fydd cyfle i'r deisebydd ac eraill gyfrannu at drafodaethau ar y pwnc hwn.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Liz Davies ac Ainsley Bladon, Llywodraeth Cymru.
Derbyniwyd y cynnig.
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r dystiolaeth a dderbyniwyd ar P-05-736 i Wneud Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn fwy Hygyrch a chytunodd i geisio ymateb y deisebydd yn dilyn y sesiwn dystiolaeth, cyn cytuno ar ba gamau pellach i'w cymryd ar y ddeiseb.